Stori fyr
Roedd y daith I L.A yn un hir a blinedig. Roedd y sgwrsio cyson o deithwyr yn rhoi cur pen imi, wrth lwc, deuthum gyda parasetamol. Ni fyddai’r ddynes a eisteddai wrth fy ymyl stopio cwyno. Roedd y daith Newydd ddechrau, ac rwyf wedi cael llond bol yn barod. Hyd yn oed gyda’r holl swn o amgylch roedd fy amrannau yn drwm a blinder yn bygythu syrthio mewn i gwsg.
Deffrais yn sydyn, fy nghalon yn curo yn fy mrest, yn pwnio yn erbyn fy asenau fel pe bai am dorri’n rhydd. Roedd swn brawychys ‘beep’ i’w glywed trwy’r awyren; roedd yr awyrgylch yn drwm gyda distawrwydd. Chwyddodd fy ngwddf wrth i banig setlo i mewn, fy nghorff yn amlwg yn crynu. Fel llawer o bobl eraill mae ofn yn cymrud dros ein reddfau. Rwan mae teithwyr yn gweiddi ar ei gilydd, rhai yn dadlau a rhai yn crio. Yna mae’r capten yn cyhoeddi glaniad brys, mae rhan fwyaf o’r deithwyr fel mi yn dawel nawr, yn gwrando ar ei llais awdurdodol gan fod o’n cysurol i gael sicrwydd bydd popeth yn iawn.
Roedd yr awyren yn ysgytio’n dreisgar felly holwyd gwregysau diogelwch, daliais i ddweud wrth fy hun y bydd popeth yn iawn, a byddwn yn glanio’n fuan. Roedd sŵn twrf yn atseinio trwy’r awyren. Sgrechiodd rhywun. Roedd darnau o awyren yn disgyn i ffwrdd, rhai yn taro’r ffenestri erbyn lle eisteddai. Nawr roedd pobl wedi mynd i banig eto. Nid oedd gair gan y capten, dim byd i dawelu ein meddwl. Gwnaeth twrf enfawr arall i’r awyren grynu a gwyro yn yr awyr. Pa mor hir y byddai’n rhaid i ni ddioddef hyn? Edrychais allan fy ffenest a gallwn weld tir o’r diwedd ac nid cymylau! Ond roedd rhywbeth yn ymddangos i ffwrdd. Roedd y ddaear yn dod yn agosach ac yn agosach yn rhy gyflym! Doedden ni ddim yn gleidio i lawr mwyach roedden ni’n mynd yn syth i lawr, yn syrthio! Edrychais i ffwrdd o’r ffenestr a chau fy llygaid yn methu â dwyn meddwl marwolaeth, cymerais anadliadau dwfn i dawelu fy nerfau. Os gwelwch yn dda, os gwelwch yn dda, os gwelwch yn dda ... meddyliais. Agorais fy llygaid a dechrau cofio wynebau pobl, gan geisio gwneud unrhyw beth i dynnu fy sylw oddi wrth yr anochel. Anadlu i mewn ac allan, meddylias. Ac yna roedd popeth yn ddu, fel breuddwyd.
Codais yn araf. Nid oeddwn yn gallu symud fy nghoes chwith ac roedd fy mhen yn brifo. Edrychais o amgylch, roedd popeth yn symud felly caeodd fy lygaig ac cymerodd anadlau dwfn. Edrychais allan eto. Roedd darnau mawr o aweryn ar y llawn yn losgi, darnau o cadair a metel. Roedd llawer o pobl dal ar y llawr yn cysgu am byth, ddarnau o’i chorff wedi mynd, a rhai pobl ar ddarn. Roedd gwaed a chroen yn amgylchai lle eisteddais efaillai fe biais i. Nid oeddwn yn gwybod. Nid oeddwn yn gwybod unrhyw beth. Oedd i yr unig un? Teimlais dwr cynnes yn rhedeg lawr fy bochau. Roedd fy nillad gyda tyllau mewn a fyng wallt hanner di llosgi. Codais yn araf. Saethodd peon chwilota fyny fy nghoes a syrthiodd yn ol ir llawr. Ymlusgodd ar draws y llawr i’r person agosaf atai. Geneth tua trugain oed oedd hi. Galwodd allan iddi, ond ni chafodd ymateb. Edrychodd lawr i’w ddwylo. Ymestynais at y ddarn o papur llosgedig ac tynais allan o’i ddwylo. Ddarllenodd y llythyr; Rwyn dy garu di, peidio a rhoi’r gorau iddi – mam. Dalias y llythyr yn agos at fy nghalon a chriodd am beth teimlodd fel byth.
Tynnais swn hofrennydd allan o’m tywyllwch. Gwelais pobol mewn siacedi coch yn mynd o amgylch y pobl. Yna fe rhedodd draw ata’i. Cafodd i ei chodi gan sawl person ac cymerodd nhw i, i’r hofrennydd. Edrychais ar wyneb y ddynes wrthyml a oedd yn cario fi. Roedd eu gwefusai yn symud ond nid oedd unrhyw swn yn ddod allan. Trias ffocysu ar ei llygaid ond roedd popeth yn niwlog. Disgynais fy lygaid i gwsg ddwfn.











![Savage Whispers 1 - Mea [ENG]](https://cdn-gcs.inkitt.com/vertical_storycovers/ipad_ac1c3ac2d24d2eb3a53269595f0719f1.jpg?width=1920&quality=75)



